Os ydych o dan rybudd diswyddo ar hyn o bryd, neu os ydych chi wedi cael eich gwneud yn ddi-waith yn ystod y chwech mis diwethaf oherwydd diswyddiad a heb fod o dan gyflogaeth am chwech wythnos neu fwy yn barhaol ers cael eich ddiswyddo, mae’n bosib yr ydych yn gymwys am gefnogaeth o dan y rhaglen ReAct.
Bydd y gefnogaeth yma yn eich helpu chi i gynyddu eich sgiliau er mwyn rhoi y cyfle gorau posib i chi i ddod o hyd i swydd newydd yn fuan. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, mae’r cefogaeth yma yn gallu cynnwys hyd at £2,500 tuag at gostau hyfforddiant, ac yn rhai achosion cefnogaeth ariannol tuag at gyfarpar arbennig, defnydd hyfforddiant, costau teithio a gofal plant.
Am fwy o wybodaeth, cyngor ar hyfforddiant, a/neu manylion eich Canolfan Gyrfa Cymru lleol, cysylltwch â TSW Training.
Cyfres o weithdai a chyrsau byr a gafwyd eu dylunio i gyrraedd yr anghenion datblygiad a sgil mae cyflogwyr eu hangen o’r lefelau goruchwyliwr i uwch reolwr. Darperir y cyrsiau a’r gweithdai yma yn Ne Cymru gan TSW Training. Maent yn cario cymorthdal o hyd at 70% sydd yn gallu bod yn arbediad mawr ar ddatblygiad Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
Os yw eich cyfundrefn chi yn dymuno gweithio gyda un o’r Ymgynghorwyr Datblygu Adnoddau Dynol (DAD) y Llywodraeth Cynulliad Cymru (gwasanaeth sydd yn rhad ac am ddim), fe fydd cyllid hyfforddiant Rheolaeth ac Arweinyddiaeth yn gymwys am 50% o’r cyllid dewisol (hyd at derfynau cydseiniol). Mae’r cyllid yma ar gael os nad ydych eisiau gweithio gyda Ymgynghorydd DAD hefyd; yn yr achos yma, mae TSW yn gallu darparu dolen gyswllt at ffurflen gais y bydd angen i chi gyflawni. Fe fydd angen i’r hyfforddiant dilyn cymhwyster rheolaeth a/neu cael eu dosbarthu gan ddarparwr hyfforddiant sydd wedi eu achredu gan gorff adnabyddus, er engraifft yr Institute of Leadership and Management (ILM).
*Mae TSW yn ganolfan ILM achrededig.
Mae Cefnogaeth Recriwtio i Gyflogwyr yn cynnig cyllid i gyflogwyr sydd yn recriwtio unigolion a gafodd eu diswyddo yn ystod y chwech mis diwethaf. Mae’r grant yma yn cynnig hyd at £2,080 a fydd yn cael ei dalu mewn pedwar rhandaliad fel cyfraniad at gostau cyflog.
Hyd at £1,000 o gyllid sydd yn ddewisol ac ar wahân yw Cefnogaeth Hyfforddi i Gyflogwyr. Mae hyn yn galluogi y cyflogwr i roi yr arian yma tuag at hyfforddiant i’r recriwt sydd yn berthnasol i’r swydd.
Mae Cefnogaeth Recriwtio a Hyfforddi i Gyflogwyr ar gael i’ch cwmni chi os yw’r unigolyn yr ydych yn dymuno recriwtio o dan rybudd diswyddo ffurfiol neu wedi colli swydd yn ystod y chwech mis diwethaf o ganlyniad i ddiswyddiad.
Mae cronfa Go Wales yn gallu darparu hyd at £1,500 at gostau hyfforddi graddedigion sydd yn gweithio yng Nghymru. Mae’r cronfa ar gael i chi os ydych yn cyflogedig ac yn berson raddedig (nid ydynt yn ystyried yr amser ers i chi raddio).
Mae hyfforddiant addas yn gallu hybu rhagolion eich gyrfa a helpu cwmni eich cyflogwr i dyfu. Cwmnïau bach sydd â’r nifer o gyflogwyr yng Nghymru ac felly mae’n bosib na fydd y cwmnïau yma yn gallu cystadlu gyda’r adnoddau sydd gan gwmnïau mawr ar gyfer costau hyfforddi – Mae cronfa Go Wales yn gallu helpu yn yr achos yma.
Mae cronfa Go Wales yn gallu ariannu 50% o gostau cyrsau hyfforddi penodol. £1,500 yr unigolyn yw’r uchafswm bosib, ond gall gwmni dderbyn hyd at £7,500 gan gronfa Go Wales yn ystod y prosiect presennol 2009-11.
Gall ymgynghorwyr TSW Training ddarparu manylion pellach i chi am y cyrsau sydd yn gymwys i’r cyllid yma a’ch cyfeirio chi i Go Wales ble cewch chi fynediad i’r gronfa.